
AMDANOM NI
Ein stori:
Cymdeithas Gymunedol yw EfA – Ymarfer i Bawb – sy’n ymgyrchu a chodi arian er mwyn cael gwell argaeledd o gyfleusterau ffitrwydd a hunan reolaeth o ymarfer corff yn ein cymunedau i’r rhai hynny ag anableddau tymor hir. Cred EfA yw y byddai darpariaeth gyfartal i bobl anabl ymarfer mewn cyfleusterau cymunedol ledled Cymru yn golygu gwelliant i iechyd yn ogystal â lleihad mewn unigedd cymdeithasol. Mae cyfleusterau ffitrwydd cyhoeddus ar gael i’r gymuned yn gyffredinol, ond mae rhwystrau sylweddol, sy’n anffafrio pobl gydag anableddau. Mae’r rhwystrau hyn yn atal pobl anabl yng Nghymru rhag rheoli eu hiechyd a’u lles eu hunain. Dengys ymchwil bod ymarfer y corff yn helpu osgoi afiechydon eilaidd. Eto, mae pobl anabl yn cael eu heithrio o gyfleusterau ac offer cyhoeddus, a fyddai’n eu galluogi i gadw’n ffit ac yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Ein nodau:




